













Y Gwyll: Tirweddau Ceredigion
David Wilson, Ed Talfan & Ed Thomas
£25.00
£25.00
Tax included
For UK deliveries shipping is calculated at checkout.
For International deliveries check shipping options here.
Your cart is empty
Continue shoppingClawr caled | 192 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddwyd Hydref 2017 | ISBN 9781912213016
Mae Y Gwyll: Tirweddau Ceredigion yn gasgliad o luniau, traethodau a chipluniau o greu’r rhaglen deledu lwyddiannus Y Gwyll. Mae wedi cael ei olygu gan greawdwyr y rhaglen Ed Talfan ac Ed Thomas. Mae’r llyfr yn dwyn at ei gilydd luniau o’r tu ôl i’r camera o gynhyrchiad gyda lluniau du a gwyn syfrdanol o dirweddau Ceredigion, a dynnwyd gan David Wilson, y ffotograffydd o Orllewin Cymru. Mae yna un traethawd gan y nofelydd o Geredigion Caryl Lewis, yn dogfennu eu hymateb i dirweddau cyfoethog Ceredigion.
Mae Y Gwyll / Hinterland yn ddrama dditectif noir wedi ei lleoli yn Sir Orllewinol Cymru, Ceredigion. Mae’n dilyn DCI Tom Mathias a DI Mared Rhys wrth iddynt ddadorchuddio byd o ddirgelwch, hanner gwir a llwybrau ffug. Mae pob episod o 90 munud wedi ei hysgrifennu, ei ffilmio a’i darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar S4C a BBC yn ôl eu trefn. Mae’r rhaglen bellach yn cael ei darlledu mewn dros 100 o wledydd ac yn denu twristiaid o bob cwr o’r byd i Geredigion.
Mae David Wilson yn ffotograffydd celfyddyd gain sy’n ymdrechu i gyfleu arfordir a chefn gwlad ei famwlad. Mae ei ddelweddau’n darlunio harddwch ac urddas rhyfeddol tir a môr sydd wedi’u ffurfio gan elfennau eithafol a’u llunio’n rhannol gan ddyn. Ymhlith ei lyfrau mwyaf amlwg mae: Pembrokeshire, teyrnged i’w sir enedigol, Wales – A Photographer’s Journey, taith mewn lluniau drwy wlad gyfareddol, a The Starlings & Other Stories, sef cydweithrediad unigryw gyda rhai o awduron straeon ditectif gorau Prydain.
Reviews
'In this collaboration with the programme makers, David Wilson embarked on a glorious photographic journey in the region: exploring abandoned farms; remote chapels; barren hills; cascading waterfalls; windswept beaches. Including on-set and behind-the-scenes photography from the Hinterland series this book is a visual celebration of Ceredigion.' Tenby Observer